Bele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: lez:Тамун цуцӀул
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
B trwsio dolen
Llinell 15:
}}
 
Anifail o deulu'r [[gwenci|wenci]] yw'r '''Bele''' neu '''Bela''' (''Martes martes''). Mae oddeutu maint [[cath]], tua 53 cm o hyd ac yn pwyso rhyw un cilogram a hanner ar gyfartaledd. Brown yw lliw cyffredinol yr anifail, yn amrywio o frown golau i frown tywyll.
 
Fel rheol maent yn byw mewn ardaloedd coediog yng ngogledd [[Ewrop]]. Maent yn hela yn y nos gan amlaf, ac yn dal [[mamal]]iaid bychan, adar, wyau, llyffantod ac weithiau aeron. Mae'r Bele yn weddol gyfredin mewn rhai rhannau o'r [[Alban]], ond mae cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch ei statws yng Nghymru. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae cryn nifer o bobl wedi dweud eu bod wedi gweld Bela yn rhannau coediog [[Eryri]], yng [[Coedwig Gwydyr|Nghoedwig Gwydyr]] yn arbennig, ond does neb wedi cael llun i brofi hyn. Mae "Bele" neu "Bele" yn elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd.