Trahaearn ap Caradog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
chwaneg
Llinell 5:
Ar farwolaeth [[Bleddyn ap Cynfyn]] yn 1075, mae'n ymddangos nad oedd yr un o'i feibion yn ddigon hen i hawlio'r deyrnas, a chipiodd cefnder Bleddyn, Trahaearn ap Caradog, y goron. Yr un flwyddyn glaniodd [[Gruffudd ap Cynan]] ar [[Ynys Môn]] gyda byddin o [[Iwerddon]], a chyda chymorth y barwn [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Robert o Ruddlan]] gorchfygodd Drahaearn ac enillodd feddiant ar Wynedd. Fodd bynnag bu trafferthion rhwng milwyr Gwyddelig Gruffudd a'r Cymry lleol yn [[Llŷn]], a rhoddodd hyn gyfle i Drahaearn wrth-ymosod, gan orchfygu Gruffudd ym [[Brwydr Bron yr Erw|mrwydr Bron yr Erw]] yn yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon.
 
Teyrnasodd Trahaearn ar Wynedd tan [[1081]], pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan a gwneud cynghrair gyda [[Rhys ap Tewdwr]] tywysog [[Deheubarth]], oedd yn ddiweddar wedi ei yrru allan o'i deyrnas gan [[Caradog ap Gruffudd]] o [[Morgannwg|Forgannwg]]. Gwnaeth Trahaearn gynghrair â Charadog ap Gruffydd, ond ym [[Brwydr Mynydd Carn|Mrwydr Mynydd Carn]], i'r gogledd o [[Tyddewi|Dyddewi]], yr un flwyddyn lladdwyd Trahaearn a Charadog. Yn ôl ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', trawyd Trahaearn yn ei fol a syrthiodd i'r llawr, 'a Gwcharci Wyddel a wnaeth facwn ohonaw fal o hwch'. Enillodd Gruffudd ap Cynan orsedd Gwynedd unwaith yn rhagor a dychwelodd Rhys ap Tewdwr i'w safle fel tywysog Deheubarth.
 
==Disgynyddion==
Priododd Gwladus, ferch [[Llywarch ap Trahaearn]], [[Owain Gwynedd]].
 
==Cyfeiriadau==
*[[R. R. Davies]], ''The Age of Conquest: Wales 1063-1415'' (Rhydychen, 1991). ISBN 0-19-820198-2
*D. Simon Evans (gol.), ''Historia Gruffudd vab Kenan'' (Caerdydd, 1977). (Orgraff ddiweddar sydd yn y dyfyniad uchod, t. 15).
*[[Thomas Jones]] (gol.), ''Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20 version'' (Caerdydd, 1952)