John Morris-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
delwedd LLGC
Llinell 42:
==Hanes==
Cafodd ei eni ym mhentref bychan [[Trefor (Môn)|Trefor]], plwyf [[Llandrygarn]], [[Sir Fôn]]. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn [[Llanfairpwllgwyngyll]]. Wedi cael ei addysg gynnar yn [[Ysgol Friars, Bangor]], a [[Coleg Crist, Aberhonddu|Choleg Crist, Aberhonddu]], enillodd ysgoloriaeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] i astudio mathemateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith Gymraeg a [[llenyddiaeth Gymraeg]], ac 'roedd yn un o sylfaenwyr [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]] yn [[1880]]. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r [[Gymraeg]] yn Rhydychen dan yr Athro Syr [[John Rhŷs]].
[[Delwedd:7163465460 25f80d98a9 zJMJ.jpg|chwith|bawd|John Morris-Jones tua 1885]]
 
Penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng [[Prifysgol Cymru, Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], [[Bangor]], yn [[1888]] ac yn [[1895]] yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd; ymhlith ei ddisgyblion oedd Syr [[Ifor Williams]]. Fe'i urddwyd yn farchog yn [[1918]]. Bu farw yn [[1929]] ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.