Myrddin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llun |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Ceir y cyfeiriad cyntaf at berson o'r enw Myrddin mewn nifer o gerddi darogan, o ddyddiad ansicr ond yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn y [[6ed ganrif]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Mae'r rhain yn cynnwys yr ''Afallennau'', yr ''Hoianau'', ''Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei chwaer'', ''Gwasgargerdd Fyrddin yn y bedd'' a ''Peirian Faban''. Gellir casglu o'r cerddi hyn fod Myrddin yn fardd i [[Gwenddoleu fab Ceidio]], a laddwyd ym [[Brwydr Arfderydd|Mrwydr Arfderydd]] yn erbyn [[Rhydderch Hael]]. Dywedir i Fyrddin fynd yn wallgof o weld y lladdfa, a chael y ddawn i broffwydo.
Datblygwyd y chwedl yn ddiweddarach gan [[Sieffre o Fynwy]], sy'n cysylltu Myrddin a de Cymru, ac yn enwedig a [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]], yn hytrach na'r Hen Ogledd. Yn ei ''Historia Regum Britanniae'' (1136) mae Sieffre yn adrodd fod Myrddin yn fachgen "heb dad", a bod bwriad i'w ladd a thaenellu ei waed ar sylfeini caer yr oedd [[Gwrtheyrn]] yn ceisio ei hadeiladu. Mae'r hanes yma yr un hanes a'r un a adroddir gan [[Nennius]] am [[Dinas Emrys]], ond mai [[Emrys
|