Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy a'r Cylch 1958: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Er bod y rheol Gymraeg wedi ei sefydlu, bu eithriadau yn yr eisteddfod hon. Fe siaradodd [[Aneurin Bevan]] yr aelod seneddol lleol o [[1929]] tan [[1960]], yn Saesneg;. doeddDoedd ei rieni ddim wedi trosglwyddo'r iaith Gymraeg iddo, arferiad cyffredin y dyddiau hynny. Disgrifiodd Bevan yr Eisteddfod fel conglfaen gwareiddiad, ac fe wnaeth annog peidio cyfeirio at 'Gymru a Mynwy' mwyach gan mai nodweddion Cymreig oedd i bobol Mynwy.
 
Bu cryn ddadlau yn y wasg ynglyn â'r rheol Gymraeg. Roedd y [[Western Mail]] yn dadlau am lai o Gymraeg yn yr Eisteddofd, er mwyn y di-Gymraeg, ond yr oedd eraill yn poeni y byddai'r eisteddfod yn dychwelyd i fod yn ddwyieithog unwaith yn rhagor. Roedd y rheol Gymraeg wedi golygu bod cannoedd o bobl yng Nglynebwy wedi diddori yn y Gymraeg ac yn awyddus i'w dysgu.
 
Enillwyd y goron gan Llewelyn Jones o Lanbadarn a r y pwnc 'Cymod' mewn cystadleuaeth siomedig.
 
[[T Llew Jones]] oedd enillydd y gadair, bardd ac awdur nifer fawr o lyfrau darllen i blant. Testun yr awdl oedd 'Caerllion-ar-Wysg' Yn yr awdl mae y tadcu yn poeni bod ei ŵyr yn cyfeillachu gyda'r rhufeiniaid, gan ddysgu eu hiaith a'u diwylliant gan droi ei gefn ar Gymru a'r iaith Gymraeg. Roedd y neges hon yn hynod o berthnasol i beth oedd yn digwydd yng Nghymru yn [[1958]] ac hyd yn oed heddiw.
 
Bu dadleuon eraill hefyd yn [[Baner ac Amserau Cymru]]. Beirniadodd [[R Gerallt Jones]] y beirniaid am ei dibynnaeth ar chwaeth bersonol a'u safon isel, a beirniadodd [[Kate Roberts]] yr eisteddfod am beidio roi sylw teilwng i'r nofel, a diffyg urddas seremoni'r fedal ryddiaeth.
 
Fe wnaeth [[Paul Robeson]] ymweld â'r Eisteddfod hon