Tbilisi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd y diwrnod
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Countless cathedrals of tbilisi.jpg|300px|bawd|Rhai o eglwysi niferus Tbilisi]]
Prifddinas a dinas fwyaf [[Gweriniaeth Georgia]], ar lannau [[afon Kura]] (Mtkvari) yn nwyrain y wlad, yw '''Tbilisi''' ([[Georgieg]]: თბილისი). Daw'r ffurf bresennol ar yr enw o'r enw Georgeg ''Tpilisi'' sy'n tarddu o'r enw [[Armenieg]] ''Teplis'' a'r enw [[Groeg (iaith)|Groeg]] ''Tiflis''; benthycwyd yr olaf i'r [[Rwseg]] ac o 1936 ymlaen ei henw swyddogol yn yr iaith honno yw Тифлис (''Tiflis''): mae'n dal i gael ei hadnabod felly weithiau heddiw mewn ieithoedd eraill. Mae gan y ddinas arwynebedd o 726 km² (280.3 milltir sgwar) a phoblogaeth o 1,093,000.
[[Delwedd:20110421 Tbilisi Georgia Panoramic.jpg|bawd|320px300px|Llun panorama o'r ddinas]]
 
Sefydlwyd Tbilisi yn y 5ed ganrif OC gan [[Vakhtang Gorgasali]], Brenin Siorsaidd [[Kartli]] (''Iberia''), a daeth yn brifddinas y wlad yn y 6ed ganrif. Heddiw mae Tbilisi yn ganolfan diwydiant a diwylliant bwysig sy'n gorwedd ar groesfan hanesyddol rhwng Ewrop ac Asia. Yn gorwedd ar un o ganghennau [[Llwybr y Sidan]], mae Tbilisi wedi gweld sawl ymigprys am reolaeth arni yn ei hanes. Adlewychir hyn yn ei phensaernïaeth gyfoethog, gydag ardal fodern Rhodfa Rustaveli a'r cylch yn ymdoddi i strydoedd cul yr hen ardal ganoloesol Narikala.