Austin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jhendin (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Jhendin (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
|Gwefan= http://www.austintexas.gov
}}
'''Austin''' yw prifddinas y dalaith Americanaidd, [[Texas]], [[Unol Daleithiau]]. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 743790,074390. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
 
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y [[1830au]] ar lannau'r [[Afon Colorado]] gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn ''Waterloo''. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl [[Stephen F. Austin]]. Tyfodd y ddinas trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y [[Y Dirwasgiad Mawr|Dirwasgiad Mawr]] parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.