Rheilffordd y TGM: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 300px|bawd|Trên yng ngorsaf '''TGM''' [[La Goulette]] '''Rheilffordd y TGM''' yw'r rheilffordd ysgafn sy'n cysylltu dinas Tunis a [[La Mars...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:04, 19 Mawrth 2007

Rheilffordd y TGM yw'r rheilffordd ysgafn sy'n cysylltu dinas Tunis a La Marsa yn y gogledd. Fe'i henwir ar ôl ei gorsaf ar ben Avenue Habib Bourguiba, sef 'Tunis Gare Marine'; TGM yw enw'r rheilffordd ar lafar. Adeiladawyd y TGM gan y Ffrancod. Erbyn heddiw mae'n ddolen hollbwysig yn rhwydwaith cludiant Tunis Fwyaf gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd ddydd a nos (ac eithrio oriau mân y bore yn y gaeaf). Mae'n rheilffordd brysur iawn sy'n cludo miloedd bob dydd. Yn yr oriau brys mae trenau'n rhedeg bob deuddeg munud. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'r rheilffordd yn rhedeg o fewn chwarter milltir i lan Gwlff Tunis.

Trên yng ngorsaf TGM La Goulette

Rhed y rheilffordd o'r orsaf TGM, wrth ymyl porthladd Tunis, i La Marsa yn y gogledd. Mae'n croesi Llyn Tunis ar forglawdd ac yna gamlas La Goulette i gyrraedd La Goulette ei hun, sy'n derminws fferi ac ymdrochfa poblogaidd. Rhwng La Goulette a La Marsa mae'n galw yn Carthage a rhan isaf Sidi Bou Saïd.

Gorsafoedd