Rheilffordd y TGM: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun arall
interwiki Saesneg
Llinell 1:
[[Delwedd:TGM_goulette_2001.jpg|300px|bawd|Trên yng ngorsaf '''TGM''' [[La Goulette]]]]
'''Rheilffordd y TGM''' yw'r [[rheilffordd]] drydan ysgafn sy'n cysylltu dinas [[Tunis]] a [[La Marsa]] yn y gogledd. Fe'i henwir ar ôl ei gorsaf ar ben ''Avenue Habib Bourguiba'', sef 'Tunis Gare Marine'; TGM yw enw'r rheilffordd ar lafar. Adeiladawyd y TGM gan y [[Ffrainc|Ffrancod]] ar ddiwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganrif]]. Erbyn heddiw mae'n ddolen hollbwysig yn rhwydwaith cludiant [[Tunis Fwyaf]] gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd ddydd a nos (ac eithrio oriau mân y bore yn y gaeaf). Mae'n rheilffordd brysur iawn sy'n cludo miloedd bob dydd. Yn yr oriau brys mae trenau'n rhedeg bob deuddeg munud. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'r rheilffordd yn rhedeg o fewn chwarter milltir i lan [[Gwlff Tunis]]. Ei hyd yw tua 30km ac mae'r siwrnai o'r naill ben i'r llall yn cymryd 45 munud.
Rhed y rheilffordd o'r orsaf TGM, wrth ymyl porthladd Tunis, i La Marsa yn y gogledd. Mae'n croesi [[Llyn Tunis]] ar forglawdd ac yna gamlas La Goulette i gyrraedd [[La Goulette]] ei hun, sy'n derminws fferi ac ymdrochfa poblogaidd. Rhwng La Goulette a La Marsa mae'n galw yn [[Carthage]] a rhan isaf [[Sidi Bou Saïd]].
Llinell 26:
[[Categori:Rheilffyrdd Tunisia|TGM]]
[[Categori:Tunis Fwyaf]]
 
[[en:TGM]]