Gwlff Tiwnis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 300px|bawd|Delwedd lloeren NASA o '''Gwlff Tunis''' Bae mawr agored yn ne'r Môr Canoldir ar arfordir gogleddol Tunisia yw '''Gwlff Tunis''...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Yma yn ôl traddodiad y glaniodd y frenhines [[Elissa]] (Dido yn ''Eneid'' [[Fferyllt]]) a'i llynges o ffoaduriaid o [[Tyre]] tua 700 CC a sefydlu dinas [[Carthage]]. Mae'r gwlff wedi bod yn dyst i sawl frwydr fawr ac wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr [[Henfyd]].
 
Ar ei glannau gorllewinol ceir nifer o drefi, gan gynnwys (o'r gogledd i'r de) [[Sidi Bou Saïd]] ar Benrhyn Carthage, [[Carthage]] ei hun, [[La Goulette]] ar y fynedfa i [[Llyn Tunis]] a dinas [[Tunis]] ei hun, [[Rades]], ez-Zahra a [[Hammam Lif]]. Ceir nifer o draethau da sy'n denu trigolion Tunis yn yr haf. Mewn cyferbyniaeth mae'r glannau dwyreiniol yn llawer mwy anghysbell gyda nifer o glogwynni a bryniau isel. Ar ôl Hammam Lif yr unig dref o bwys yw [[Korbous]] (tref spa) a [[Sidi Daoud]] (porthladd bysgota).
 
Oddi ar benrhyn gogleddol [[Cap Bon]] ceir dwy ynys ddeniadol, [[Zembra]] a Zembretta, sy'n warchodfeydd natur. Yn dominyddu'r gwlff yn y gorllewin y mae mynydd triphyg trawiadol [[Bou Kornine]].
 
[[Categori:Tunisia]]