Almohadiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Ymladdodd Ibn Tumart yn erbyn y [[Almorafidiad]] o [[1114]] ymlaen a sefydlodd ei bencadlys yn [[Tinmal]] ym [[mynyddoedd Atlas]]. Llwyddodd ei olynydd [[Abd al-Mumin]] ([[1130]]/33 - [[1163]]) i oresgyn y Maghreb benbaladr, gan gynnwys Moroco, [[Algeria]], [[Tunisia]] a [[Libia]], erbyn [[1160]], ynghyd ag al-Andalus ([[1146]]-[[1154]]). Cyrhaeddodd yr Almohadiaid uchafbwynt eu grym yn nheyrnasiad [[Abu Yaqub Yusuf]] ([[1163]] - [[1184]]) a'i olynydd [[Yusuf Maqub al-Mansur]] neu al-Mansur ('Y Buddugoliaethus': 1184-[[1199]]). Blodeuodd ddysg a rhoddid nawdd i ysgolheigion fel [[Averroes]].
 
Ond aethdaeth tro ar fyd. Collodd [[al-Nasir]] ([[1199]] - [[1213]]) dir yn Sbaen yn [[1212]] ar ôl [[brwydr Las Navas de Tolosa]]. Cododd y rheolwyr Mwslim lleol y gwladwriaethau ''[[taifa]]'' yn al-Andalus yn eu herbyn hefyd yn [[1213]], am resymau crefyddol a gwleidyddol. Yn Tunisia daeth yr [[Hafsidiaid]] i rym yn [[1229]] a'r [[Abd al-Wadidiaid]] yn Algeria. Syrthiodd yr Almohadiaid yn ôl ar eu cadarnleoedd ym Moroco ac ymrannodd y frenhinllin yn ddau. Rhwng [[1244]] a [[1269]] collodd yr Almohadiaid eu grym a chymerodd brenhinllin y [[Merinidiaid]] drosodd yn eu lle yng ngorllewin y Maghreb.
 
[[Categori:Maghreb]]