Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
diwedd y rhamant
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Headlines with bold (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 15:
 
 
===''' 2003-2004: Première a Second Nature''' ===
 
Daeth Jenkins i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf pan ganodd hi yn Abaty [[San Steffan]] ar gyfer jiwbili arian y Pâb John Paul II ym mis Hydref 2003. Cafodd gefnogaeth y canwr [[Aled Jones]] pan oed ar daith. Yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2003, canodd am y tro cyntaf yn Nhy Opera Sydney. Ym mis Awst 2004, ymddangosodd am y tro cyntaf yn yr [[Unol Daleithiau]] yn cefnogi [[Hayley Westenra]] yn Joe's Pub yn Ninas [[Efrog Newydd]].
Llinell 23:
Jenkins oedd y person cyntaf hefyd i berfformio anthem y Gwledydd Cartref "The Power of Four". Yna aeth ymlaen i berfformio'n rheolaidd fel y gantores a ganai'r anthem genedlaethol [[Hen Wlad Fy Nhadau]] yng ngemau rhyngwladol Cymru. Hefyd canodd gyda [[Bryn Terfel]] yng ngêm Cymru-Lloegr y Chwech Gwlad yn [[Stadiwm y Mileniwm]]. Bellach, Jenkins yw mascot swyddogol [[tîm rygbi Cymru]]. Yn ogystal â'i pherfformiadau cyn gemau Rygbi'r Undeb. Yn 2004 canodd yn rownd derfynol Cwpan Sialens Powergen rhwng [[San Helens]] a [[Wigan]].
 
===''' 2005 - 2006: Living a Dream a Serenade''' ===
 
Ar yr 22ain o Ionawr 2005, canodd Jenkins mewn Cyngerdd Elusennol i'r [[Tsunami]] yng [[Nghaerdydd]] er mwyn codi arian i ddioddefwyr daeargryn Môr India yn 2004. Ym mis Ebrill a Mai 2005, cefnogodd Jenkins y [[tenor]] [[Gwyddelig]] [[Ronan Tynan]] ar ei daith gyntaf fel perfformiwr unigol o amgylch yr [[Unol Daleithiau]]. Ar lwyfan [[Live 8]] yn Berlin, canodd Jenkins yr emyn [["Amazing Grace"]]. Roedd ei pherfformiad hi o'r gân yn solo lleisiol am rannau helaeth o'r gân: ar gyfer gweddill y gân roedd piano'n chwarae'n ysgafn.
Llinell 35:
Cafodd ei phedwaredd albwm stiwdio, Serenade, ei ryddhau ar y [[6 Tachwedd|6ed o Dachwedd]] [[2006]] ac aeth i rif 5 yn y brif siart Brydeinig gan werthu mwy na 50,000 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Golygodd hyn mai dyma'r CD clasurol i werthu fwyaf ym Mhrydain. Ar siart glasurol HMV, albymau Jenkins oedd o rif un i rif pedwar. Yn ogystal â hyn, perfformiodd yn fyw o flaen y Frenhines ym mis Tachwedd yng Ngŵyl Cofio y Lleng Brenhinol Prydeinig yn Neuadd yr Albert Frenhinol. Ymunodd y canwr Cymreig [[James Fox]] â hi ar gyfer pennill olaf "Anthem" o'r sioe gerdd '[[Chess (sioe gerdd)|Chess]]'. Ar y 23ain o Ragfyr 2006 ymddangosodd Jenkins fel gwestai a pherfformwraig ar sioe [[Parkinson]] ar [[ITV]], lle canodd hi'n anthem genedlaethol Cymreig yn ystod ei chyfweliad. Canodd gân Nadoligaidd hefyd gyda band pres a Chor Meibion Froncysyllte yn gyfeiliant iddi.
 
===''' 2007 - presennol: Rejoice''' ===
 
Ar ddechrau 2007, ymddangosodd Jenkins am ei thro cyntaf ar Rich List [[The Sunday Times]] o bobl ifanc. Fe'i hystyriwyd yn rif 62 o ran person ifanc cyfoethocaf Prydain gyda chyfoeth personol o tua £9 miliwn. Ers diwedd 2006, amcangyfrifir ei bod wedi gwerthu tua 2 filiwn o recordiau ers ei halbwm cyntaf yn 2004.