Baner Moroco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Bandeira de Marrocos
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 2:
[[Maes (herodraeth)|Maes]] [[coch]] gyda [[Selnod Solomon]] (sef [[pentagram]] [[gwyrdd]]) yn ei ganol yw '''[[baner]] [[Moroco]]'''. Mae'r lliw coch o arwyddocâd hanesyddol sylweddol ym Moroco, gan ei fod yn symboleiddio llinach y Teulu Brenhinol o'r Proffwyd [[Muhammad]] trwy ei ferch [[Fatimah]], gwraig [[Ali]], y bedwaredd [[Califf|Galiff]]. Hefyd coch yw lliw [[Sharifau Mecca|Sharifau]] [[Mecca]] ac [[Imam]]au [[Yemen]].
 
Hyd nes [[17eg ganrif|yr ail ganrif ar bymtheg]] y Frenhinlin Hassani oedd yn teyrnasu dros Foroco a maes coch yn unig oedd baner y wlad. Ar [[17 Tachwedd]], [[1915]], yn ystod teyrnasiad Mulay Yusuf, ychwanegwyd Selnod Solomon – symbol a ddefnyddiwyd mewn [[cyfraith]] [[yr ocwlt]] ers canrifoedd – i'r faner.
 
Pan oedd Moroco dan reolaeth [[Ffrainc]] a [[Sbaen]] defnyddiwyd y faner yn fewndirol ond gwaharddwyd ei defnydd ar y moroedd. Ail-fabwysiadwyd y faner genedlaethol yn swyddogol yn sgîl [[annibyniaeth]] yn [[1956]].