Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GhalyBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: arz:كيلت
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Link equal to linktext (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 140:
[[Delwedd:Cernunnos.jpg|bawd|250px|chwith|Cernunnos, duw corniog y Celtiaid]]
 
Roedd [[Amldduwiaeth Geltaidd|crefydd draddodiadol y Celtiaid]] yn cynnwys nifer fawr o dduwiau. Duwiau lleol oedd llawer o'r rhain, a'u dylanwad wedi ei gyfyngu i lecyn arbennig. Ar y llaw arall roedd rhai duwiau oedd yn cael eu haddoli dros ardal eang iawn. Er enghraifft mae [[Lleu]] yng Nghymru yn cyfateb i [[Lugh]] yn Iwerddon a [[Lugos]] yng Ngâl. Mae'r "Dinlle" yn yr enw [[Dinas Dinlle]] yn ei hanfod yr un enw â ''Lugdunum'', hen enw dinas [[Lyon]]. Ymddengys fod [[Epona]], duwies geffylau'r Galiaid (cymharer y gair "ebol" yn Gymraeg) yr un dduwies a [[Macha]] yn Iwerddon a [[Rhiannon]] yng Nghymru. Mae nifer o'r cymeriadau ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]], fel Lleu a Rhiannon, i bob golwg yn dduwiau Celtaidd wedi eu troi yn gymeriadau o gig a gwaed. Esiampl arall yw [[Manawydan|Manawydan fab Llŷr]], sy'n cyfateb i dduw'r môr, [[Manannán mhac Lir]], yn Iwerddon. Uniaethir [[Mabon fab Modron]] yn chwedl [[Culhwch ac Olwen]] a'r duw [[Maponos]], a enwir ar nifer o arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Un o'r prif dduwiau oedd y duw corniog, [[Cernunnos]], efallai duw hela ac arglwydd y fforest.<ref>Davies ''Y Celtiaid'' t. 81</ref> Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau.<ref>Anne Ross "Y diwylliant Celtaidd" yn Bowen (gol) ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' tt. 109-10</ref> Dywed rhai bod yr hen grefydd Geltaidd wedi goroesi mewn ffurf o [[Neo-baganiaeth|Neo-baganiaeth]].
 
Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'r [[Derwydd|Derwyddon]] ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanes [[Tacitus]] am ymosodiad y Rhufeiniad dan [[Suetonius Paulinus]] ar [[Ynys Môn]] yn [[60]] CC.<ref>Cornelius Tacitus ''Annales'' XIV</ref> Yn ôl [[Poseidonius]] ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'r ''[[vates]]''.<ref>Dyfyniad yn Freeman ''The philosopher and the druids'' t. 158</ref> Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.16</ref> Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.13</ref>