Nebo, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ysgol Nebo
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Link equal to linktext (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 2:
[[Cefn gwlad|Pentref gwledig]] yn [[Arfon]], [[Gwynedd]], yw '''Nebo'''. Saif milltir a hanner i'r de-ddwyrain o [[Llanllyfni|Lanllyfni]], ger [[Pen-y-Groes]], a thua milltir i'r dwyrain o briffordd yr [[A487]] rhwng [[Caernarfon]] a [[Cricieth|Chricieth]].
 
Y pentref agosaf yw [[Nasareth, Gwynedd|Nasareth]]. Mae'r hen lôn o Lanllyfni yn rhedeg heibio i waelod Nebo ar ei ffordd i [[Garn Dolbenmaen|Garn Dolbenmaen]]. Ardal o hen dyddynoedd bychain ydyw yn bennaf, ar wasgar yn eu caeau ar y llethrau. Enwir Nebo ar ôl y capel lleol, un o sawl rhai yng Nghymru a enwyd ar ôl [[Mynydd Nebo (Iorddonen)|Mynydd Nebo]] yn yr [[Hen Destament]].
 
Mae lôn yn arwain i fyny o Nebo i [[Llyn Cwmdulyn|Lyn Cwmdulyn]] dan greigiau syrth [[Mynydd Graig Goch]]. Mae'r afonig sy'n rhedeg o'r llyn yn mynd heibio i'r pentref ar ei gwr gogleddol i ymuno yn Afon Crychddwr sy'n llifo wedyn i [[Afon Llyfni]].