Elen ferch Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
Merch [[Llywelyn Fawr]], [[Tywysog Cymru]], oedd '''Elen ferch Llywelyn''' (tua [[1206]]–[[1253]]). Nid oes sicrwydd hollol, ond credir mai [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Siwan]], gwraig Llywelyn a merch y brenin [[John o Loegr]], oedd ei mam. Cyfunai felly waed brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, sef llinach [[Aberffraw]], a llinach y [[Plantageniaid]] ynddi. Cofnodir ei henw mewn dogfennau Lladin fel '''''Elena''''' a '''''Helen'''''.
 
Cymharol ychydig a wyddys amdani. Mae'r cofnod cynharaf, sy'n dyddio o 1221, yn ymwneud ag achos cyfreithiol gan Ystrwyth (Instructus), un o glercod Llywelyn, i amddiffyn hawl Elen ar ystâd o dir yn [[Wellington, Swydd Amwythig]].<ref>David Stephenson, ''The Governance of Gwynedd'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984), tud. 225.</ref>