Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
wythnos yng Ng Fydd |
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau) B WPCleaner v1.13 - Category is english - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia) |
||
Llinell 1:
__NOTOC__
[[Delwedd:Islwyn_Ffowc_Elis.jpg|thumb|200px|Islwyn Ffowc Elis (Llais Llyfrau
Nofelydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Islwyn Ffowc Elis''' ([[17 Tachwedd]] [[1924]]
==Bywyd a gwaith==
Cafodd ei eni yn [[Wrecsam]] a'i fagu yn [[Glynceiriog|Nglynceiriog]], pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin [[Lloegr]]. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr.<ref>’Y rhaid sydd arnaf’ yn ‘‘Fy Nghymru’’ (1961)</ref> Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd [[Llangollen]] ac wedyn i [[Prifysgol Cymru, Bangor|Goleg Prifysgol Cymru, Bangor]]. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol.<ref>Chapman, ''Rhywfaint o Anfarwoldeb''</ref> Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau.<ref>Llwyd tt.
Bu’n weinidog gyda’r [[Methodistiaid Calfinaidd]] o [[1950]] hyd [[1956]], yn Llanfair Caereinion ac yna Niwbwrch. Tra’n weinidog enillodd y [[Medal Ryddiaith|Fedal Ryddiaith]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951|Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst]], [[1951]], am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd wedyn gan Wasg Gomer, yn y gyfrol ''[[Cyn Oeri'r Gwaed]]''. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, ''[[Cysgod y Cryman]]'' yn 1953. Ar yr un pryd roedd yn magu anfodlonrwydd gyda chrefydd gyfundrefnol, fel y mae’n egluro yn ei ysgrifau 'Lludw’r weinidogaeth', ''Y Dysgedydd'' (1952) ac 'Y colledigion', 'Yr hen gyfundrefn annwyl', a 'Machlud a gwawr y fugeiliaeth', ''Y Drysorfa'' (1955). At hynny nid oedd yn gysurus yn ei waith.<ref>Llwyd tt.
{{dyfyniad|"Fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd gen i dymheredd gweinidog. Roeddwn i’n rhy anghymdeithasol ac roedd yn gas gen i ymweld â thai i fân siarad; gwersi oedd fy mhregethau yn hytrach na pherorasiynau swnfawr (er gofid i’r saint), ac roedd mynychu pwyllgor a chyfarfod dosbarth a chyfarfod misol a sasiwn yn ing. Mi ddechreuais sgrifennu’n fwy toreithiog nag a wnaethwn i hyd yn oed mewn ysgol a choleg, ond doedd hynny ddim yn lleddfu’r gwewyr."<ref>Cyfweliad ag Islwyn Ffowc Elis ym Mabon 1(6) (1973) wedi ei ddyfynnu yn ''Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis'' (t. 44)</ref>}}
Llinell 16:
Yr oedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig ''Y Gromlech yn yr Haidd'' ac ''Eira Mawr'' a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng [[1971]] a [[1975]].<ref>Llwyd t. 90</ref> <ref name="Stephens"></ref> <ref name="BBC"></ref> Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau [[radio]] a [[teledu|theledu]], i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd ''Rhai yn Fugeiliaid'' (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu.<ref>Llwyd tt 93, 105</ref> Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis ''Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar'' (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis ''Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd'' (1956).
Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]]. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym [[1962]] a [[1964]]. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]]. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.<ref>Llwyd tt.
Yn ogystal â bod ei lenyddiaeth yn ysbrydoli eraill i fynd ati i lenydda bu hefyd yn hybu llenorion ifainc drwy ei waith fel athro. Bu’n athro ar gyrsiau ar gyfer darpar-awduron. Bu’n Ddarlithydd ac yna’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng [[Coleg y Drindod, Caerfyrddin|Ngholeg y Drindod]], [[Caerfyrddin]] ([[1963]]
[[Delwedd:Cadair_Islwyn_Ffowc_Elis.jpg|thumb|200px|Cadair Islwyn Ffowc Elis yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru]]
Llinell 68:
{{DEFAULTSORT:Elis, Islwyn Ffowc}}
[[
[[
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Nofelwyr Cymraeg]]
|