Ifan VI, tsar Rwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: la:Ioannes VI (imperator Russiae)
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
[[Image:Ivan6russia1740.jpg|thumb|200px|Ifan VI gyda'i fam]]
 
[[Rhestr o tsariaid Rwsia|Tsar Rwsia]] fel baban o [[1740]] hyd [[1741]] oedd '''Ifan VI o Rwsia''' ([[Rwsieg]] ''Иоанн Антонович'' / ''Ioann Antonovich'') (12 / [[23 Awst]] [[1740]] – 5 / [[16 Gorffennaf]] [[1764]]). Mab hynaf [[Anna von Mecklenburg]] a'i gŵr [[Anton Ulrich von Braunschweig]] oedd ef. Mabwysiadwyd Ifan gan ei hen fodryb [[Anna o Rwsia|Tsarina Anna]] yn faban wyth wythnos ym [[1740]]. Hithau a'i enwodd fel ei hetifedd, ac, ar ei marwolaeth, ar 17 / [[28 Hydref]] [[1740]], cyhoeddwyd ef yn tsar a'i ewythr [[Ernst Johann von Biron]], Dug Kurland, yn gweithredu fel rhaglyw. Ar ôl cwymp Von Biron ym mis Tachwedd, daeth mam Ifan, [[Anna Leopoldovna o Mecklenburg]] yn rhaglyw yn ei le. Serch hynny, gwir rym oedd yn nwylo Cownt Von Münnich, ac, yn hwyrach, [[Andrey Osterman]]. Diorseddwyd Ifan mewn ''coup d'état'' ym mis Rhagfyr [[1741]], tri mis ar ddeg ar ôl ei ddyrchafiad i'r orsedd. Carcharwyd Ifan yn [[Riga]] cyn iddo gael ei drosglwyddo i [[Kholmogory]] ar y [[Môr Gwyn]] ac wedyn i [[Shlisselburg]]. Fe'i llofruddiwyd yno ym mis Gorffennaf 1764 ar ôl cynllun anlwyddiannus i'w ryddhau. Roedd ganddo ddau frawd a dwy chwaer iau a ganwyd mewn carchar. Fe'u cadwyd yn gaethion gydag ef, ond goroesasant y profiad.
 
{{dechrau-bocs}}