John Williams (Ab Ithel): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B cat
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
Hynafiaethydd a chlerigwr Cymreig oedd '''John Williams (Ab Ithel)''' ([[1811]] – [[27 Awst]] [[1862]]).
 
Ganed ef yn [[Llangynhafal]], [[Sir Ddinbych]], yn fab i Roger ac Elizabeth Williams. Cymerodd ei enw barddol "Ab Ithel" o enw ei daid, William Bethell. Addysgwyd ef yng [[Coleg Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu, Rhydychen]] a daeth yn gurad yn [[Llanfor]], ac yno y priododd Elizabeth Lloyd Williams. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ''Eglwys Loegr yn Anymddibynol ar Eglwys Rhufain'' yn [[1836]]. Yn [[1843]] daeth yn gurad parhaol [[Nercwys]], ac yn [[1849]] daeth yn rheithor [[Llanymawddwy]]. Yn [[1846]] dechreuodd gyhoeddi ''[[Archaeologia Cambrensis]]'' gyda H. Longueville Jones, a bu yn ei olygu o 1846 hyd [[1853]], ac roedd ganddo ran amlwg yn sefydlu ''[[Cymdeithas Hynafiaethau Cymru]]''.