Llugaeron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
blwch tacson
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 22:
}}
 
Grŵp o blanhigion [[bythwyrdd]] gyda ffrwythau bychain, coch arnynt yw '''Llugaeron'''. Maen't i'w canfod mewn [[cors|corsiau]] [[asid|asidig]] yn ardaloedd oerach yr [[Hemisffer Gogleddol]]. Mae'r planhigion yn tyfu ar ffurf [[llwyn|llwyni]] bychain 5&ndash;205–20&nbsp;cm o daldra, neu [[gwinwydden|winwydd]] sy'n cropian yn llorweddol hyd at 2&nbsp;m o hyd.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.cranberryinstitute.org/about_cranberry.htm| cyhoeddwr=Cranberry Institute| teitl=About Cranberries| iaith=Saesneg}}</ref> Mae gan y planhigion goesau tenau caled gyda dail bychain gwyrdd.
 
Mae'r [[blodyn|blodau]] yn binc tywyll gyda [[petal|phetalau]] arbennig sy'n atblygu gan adael y [[styl]] a'r [[briger]] yn hollol agored ac yn pwyntio allan o'r planhigyn. Cânt eu [[peillio]] gan [[Gwenynen Fêl|wenyn mêl]] cyffredin. Mae'r ffrwyth yn [[aeronen epigynol|aeron epigynol]] sydd yn fwy na maint dail y planhigyn; mae'r aeron yn wyn i gychwyn ond yn troi'n goch tywyll wrth iddynt aeddfedu. Mae'r ffrwyth yn fwytadwy ac mae ganddo flas asidig sy'n gallu gorlethu'r melysrwydd.