Morgan John Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash - Link equal to linktext (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
Gweinidog gyda'r [[Bedyddwyr]] oedd '''Morgan John Rhys''', neu Rhees ([[1760]] – [[7 Rhagfyr]] [[1804]]). Roedd hefyd yn bropagandydd enwog dros ryddid, gan groesawu'r [[Chwyldro Ffrengig]], ac yr oedd yn pregethu yn erbyn [[caethwasiaeth]]. Cafodd ei eni yn [[Llanbradach]], [[Caerffili]].
 
Yn [[1794]] ymfudodd i [[UDA|America]] wedi cael ei siomi gan yr ymateb i [[Radicaliaeth|radicaliaeth]] ym [[Teyrnas Prydain Fawr|Mhrydain]]. Yr oedd mewn perygl o gael ei arestio am ei feirniadaeth ar y [[llywodraeth]] yn ei erthyglau yn ''[[Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth|Y Cylchgrawn Cynmraeg]]'' [''sic''], y cyfnodolyn a ddechreuodd yn [[Trefeca|Nhrefeca]] yn yr un flwyddyn.
 
Yn America bu'n gyfrifol am brynu tir a sefydlu wladfa Gymreig yng ngorllewin [[Pennsylvania]]. Rhoddodd yr enw [[Cambria (Pennsylvania)|Cambria]] ar y wladfa newydd a'i brif dref oedd Beulah. Cyhoeddodd bapur newydd yno, ''The Western Sky''. Cychwynnodd enwad newydd, Eglwys Crist, a cheisiai genhadu i'r [[brodorion Americanaidd]].