Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cadwallon ap Cadfan"

Lleihawyd o 1 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
B
WPCleaner v1.14 - Reference with punctuation (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
B (r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Cadwallon ap Cadfan)
B (WPCleaner v1.14 - Reference with punctuation (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia))
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosododd [[Edwin, brenin Northumbria|Edwin]] o [[Deira]] ([[Northumbria]] heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag [[Ynys Môn]] gan orfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, [[Cadfan]], ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
 
Daeth Cadwallon i gytundeb â [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym [[Brwydr Meicen (Hatfield)|Meicen]] (neu Meigen: "Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]].<ref>''Hanes Cymru'' gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.</ref>. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
 
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym [[Brwydr Hexham|Mrwydr Hexham]] yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
3,174

golygiad