Richard Holbrooke: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: bg:Ричард Холбрук
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
[[Delwedd:Richard Holbrooke.jpg|bawd|Richard Holbrooke yn 2009]]
[[Diplomydd]], golygydd cylchgronau, awdur, athro, swyddog [[y Corfflu Heddwch]], a [[bancwr buddsoddi]] o [[Americanwr]] oedd '''Richard Charles Albert Holbrooke''' (24 Ebrill 1941 – 13 Rhagfyr 2010). Ef oedd yr unig berson i ddal swydd Ysgrifennydd Tramor Cynorthwyol yr Unol Daleithiau dros ddau ranbarth gwahanol o'r byd (Asia o 1977 hyd 1981 ac Ewrop o 1994 hyd 1996). O 1993 hyd 1994, Holbrooke oedd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r [[Yr Almaen|Almaen]]. Yn ystod [[Rhyfel Bosnia]], a gyda cyn-Brif Weinidog Sweden [[Carl Bildt]], cyflafareddodd cytundeb heddwch rhwng y ffacsiynau ym [[Bosnia a Hercegovina|Mosnia a Hercegovina]] a arweiniodd at [[Cytundeb Dayton|Gytundeb Dayton]] ym 1995. Rhwng 1999 a 2001, gwasanaethodd Holbrooke fel Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r [[Cenhedloedd Unedig]].
 
Yn ystod ymgyrch [[etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2004|etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn 2004]] yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd i ymgyrch y [[Senedd yr Unol Daleithiau|Seneddwr]] [[John Kerry]]. Yn [[etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2008|ymgyrch arlywyddol 2008]] yr oedd Holbrooke yn ymgynghorydd [[polisi tramor]] i'r Seneddwr [[Hillary Rodham Clinton]]. Yn Ionawr 2009 penodwyd yn ymgynghorydd arbennig ar [[Pakistan]] ac [[Afghanistan]], dan yr Arlywydd [[Barack Obama]] a'r Ysgrifennydd Tramor Hillary Clinton. Bu farw ar 13 Rhagfyr 2010 o [[cymhlethdodau (meddygaeth)|gymhlethdodau]] o ganlyniad i [[dyraniad aortig|ddyraniad aortig]].