Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Thomas (Ap Vychan)"

Lleihawyd o 6 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
B
WPCleaner v1.14 - en dash or em dash - Headlines start with three "=" and later with level two (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
B
B (WPCleaner v1.14 - en dash or em dash - Headlines start with three "=" and later with level two (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia))
[[Delwedd:ApVychan.jpg|right|thumb|250px|Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o [http://www.llgc.org.uk/?id=343&L=1 Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru])]]
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]].
 
Ganed Ap Vychan (''sic'') mewn bwthyn wrth waelod [[Pennant-Lliw]] ym mhlwyf [[Llanuwchllyn]]. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy [[cadair|gadair]] am ei [[awdl]]au yn [[Eisteddfod]]au'r [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caerleon|Chaerleon]], ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur [[rhyddiaith]] mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei [[hunangofiant]] yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y [[19eg ganrif]].
 
===Llyfryddiaeth===
*''Gwaith Ap Vychan'', gol. [[O. M. Edwards]] (Cyfres y Fil)
 
3,174

golygiad