William John Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Cymerai Parry ddiddordeb mawr yn hynt y chwarelwyr, a gwnaeth ei hun yn awdurdod ar agweddau economaidd y [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi]]. Ef oedd prif ysgogydd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, ac apwyntiwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol i'r undeb. Yn ddiweddarach bu'n Llywydd yr undeb. Yn 1879 ymwelodd a'r [[Unol Daleithiau]] ar gais yr undeb i astudio'r diwydiant llechi yno. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am negodi cytundeb i ddiweddu anghydfod 1896-7 yn [[Chwarel y Penrhyn]]. Erbyn y streic fawr yn 1900-1903 nid oedd ganddo gysylltiad ffurfiol a'r undeb, ond cefnogodd y gweithwyr gyda llythyrau i'r wasg ac erthyglau. Arweiniodd un o'r rhain i achos [[enllib]] gael ei ddwyn yn ei erbyn gan [[Barwn Penrhyn]]. Cynhaliwyd yr achos yn [[Llundain]], a dyfarnwyd iawndal o £500 a chostau o rai miloedd o bunnau i Penrhyn. Roedd hyn y bygwth torri Parry yn ariannol, ond gwnaed apêl ymhlith ei gefnogwyr, a chodwyd yr arian.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau, yn cynnwys ''
===Llyfryddiaeth===
|