Afon Nyfer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Afon]] yng ngogledd [[Sir Benfro]] yw '''Afon Nyfer'''. Ei hyd yw tua un filltir ar ddeg.
 
Mae'r afon yn tarddu yn ardal [[Crymych]] a llethrau bryn [[Y Frenni Fawr]]. Mae'n llifo yn syth i gyfeiriad y gorllewin ar hyd ei chwrs. Yn ei phum milltir cyntaf daw nifer o ffrydiau llai i lawr o fryniau'r [[Preseli]] yn y de i ymuno â hi. Mae hi'n llifo rhwng pentrefi [[CrosswellFfynnongroes]] ac [[Eglwyswrw]]. Am ran olaf ei chwrs mae lôn yr [[A487]] yn rhedeg ar hyd ei glan ogleddol ac yn ei chroesi ger pentref hanesyddol [[Nyfer]] (Nanhyfer). Mae'r afon yn [[aber]]u ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]] ger pentref [[Trefdraeth (Sir Benfro)|Trefdraeth]] ac yn llifo i mewn i Fae Trefdraeth.
 
Yn yr [[Oesoedd Canol]] dynodai Afon Nyfer y ffin rhwng dau [[Cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]], sef cymydau [[Uwch Nyfer]] ac [[Is Nyfer]].