Llansantffraid Glyn Ceiriog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Glynceiriog.jpg|250px|bawd|de|Canol pentref Glyn Ceiriog.]]
Hen bentref [[Diwydiant llechi Cymru|chwareli llechi]] yw '''Glyn Ceiriog''' ('''LlansantffraidLlansanffraid Glyn Ceiriog''' yn llawn), yn [[Wrecsam (sir)|Mwrdeistref Sirol Wrecsam]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]]. Gorwedd y pentref ar lan [[afon Ceiriog]] a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r [[Y Waun|Waun]] a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o [[Llangollen|Langollen]]. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward [[Dyffryn Ceiriog]], yn [[De Clwyd (etholaeth Cynulliad)|etholaeth cynulliad De Clwyd]] a'r [[De Clwyd (etholaeth seneddol)|etholaeth seneddol o'r un enw]]. Roedd chwareli [[llechi]] estynedig yno ac adeiladwyd Ffordd Tramiau Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar [[Camlas Undeb Swydd Amwythig|Gamlas Undeb Swydd Amwythig]] ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda [[rheilffordd]] y [[Great Western Railway]] o [[Caer|Gaer]] i [[Amwythig]].
 
==Daearyddiaeth a gweinyddiaeth==
[[Delwedd:Glynceiriogvillageview.jpg|250px|bawd|de|Golygfa ar bentref Glyn Ceiriog.]]
===Hanes gweinyddol===
Yn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel [[plwyf]] ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol LlansantffraidLlansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y [[16eg ganrif]] hyd [[1974]], llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol [[Sir Ddinbych]], a rannwyd yn sawl [[ardal wledig]]. Rhwng [[1895]] a [[1935]], roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig [[Llansilin]] yn [[1935]] i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn ran o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o [[1935]] hyd [[1974]].
 
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal [[Glyndŵr]] yn sir newydd [[Clwyd]]. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyndŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn ran o awdurdod unedol [[Wrecsam (sir)|Bwrdeistref Sirol Wrecsam]], fel y mae hyd heddiw.