Ffranciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am y Ffranciaid yn dod oddi wrth [[Gregori o Tours]], a ysgrifennodd ei ''Historia Francorum'' (''Hanes y Ffranciaid'') am y cyfnod hyd 594. Cofnodir I’r Ffranciaid ymosod ar yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn [[250]] a chyrraedd cyn belled a [[Tarragona]] yn [[Sbaen]]. Tua 358 rhoddodd yr ymeradwr Julian y rhan fwyaf o dalaith [[Gallia Belgica]] iddynt. Yn raddol daethant yn feistri ar y rhan fwyaf o ran ogleddol [[Gâl]].
 
Y frenhinllin gyntaf Ii lywodraethu’r Ffranciaid oedd y [[Merofingiaid]]. Dywedir fod y brenhinoedd Merofingaidd yn hannu o lwyth y [[Sicambri]]. Fodd bynnag nid y brenin oedd a’r grym mewn gwirionedd ond [[Maer y Palas]]. Y mwyaf enwog o’r rhain oedd [[Siarl Martel]], a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Mwslimiaid ym [[Brwydr Tours|Mrwydr Tours]].
 
Yn 751 diorseddwyd yr olaf o’r brenhinoedd Merofingaidd, a daeth mab Siarl Martel, [[Pepin III|Pepin Fyr]], yn frenin fel y cyntaf o linach y [[Carolingiaid]]. Adeiladodd mab Pepin, [[Siarlymaen]], ymerodraeth oedd yn ymestyn dros ran helaeth o Ewrop. O 772 ymlaen, gorchfygodd y [[Sacsoniaid]], ymgorfforodd eu tiroedd yn ei ymerodraeth a gorfododd hwynt Ii ddod yn Gristionogion. Concrodd y [[Lombardiaid]] yn 773-774, ac ychwanegodd ogledogledd yr [[Eidal]] at ei feddiannau. Ar ddydd Nadolig [[800]] coronwyd Siarlymaen yn “Ymerawdwr y Rhufeiniaid” gan y [[Pab Leo III]].
 
Pan fu farw Siarlymaen yn [[814]] yn [[Aachen]], dilynwyd ef gan ei fab [[Louis Dduwiol]], yr unig un o'i feibion oedd wedi goroesi ei dad. Ar farwolaeth Louis yn 840, bu ymladd rhwnng ei feibion, ac yn [[843]] rhannwyd y deyrnas rhyngddynt yn ôl [[Cytundeb Verdun]].