Tywysogaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: fr:Galles (principauté)
Garik (sgwrs | cyfraniadau)
B Atalnodau
Llinell 3:
[[Tywysogaeth]] a grëwyd gan [[Llywelyn ap Gruffudd]] ac a gydnabuwyd yn ffurfiol gan [[Teyrnas Lloegr|Loegr]] drwy [[Cytundeb Trefaldwyn|Gytundeb Trefaldwyn]] ym [[1267]] oedd '''Tywysogaeth Cymru'''. Roedd yn cynnwys, yn fras, gogledd-orllewin a gorllewin Cymru, sef [[Gwynedd Uwch Conwy]], rhan helaeth o'r [[Berfeddwlad]], [[Powys Fadog]] a [[Powys Wenwynwyn|Phowys Wenwynwyn]], rhannau o'r diriogaeth a gipiwyd gan Lywelyn oddi ar arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]], a [[Deheubarth]]; nid oedd yn cynnwys amrywiol arglwyddiaethau'r Mers ei hun (yn fras, dwyrain a de Cymru).
 
Trwy Gytundeb Trefaldwyn, llwyddodd Llywelyn i gael gan y brenin gadarnhad o sylwedd yr hyn a enillasai drwy [[Cytundeb Pipton|Gytundeb Pipton]], cadarnhad y bu'n rhaid iddo dalu 25,000 marc (£16,666) amdano. Cydnabuwyd ei fod yn Dywysog Cymru a bod ganddo hawl i wrogaeth pob arglwydd Cymreig ac eithrio [[Maredudd ap Rhys]] o [[Dryslwyn|Ddryslwyn]]. (Prynodd yr hawl i wrogaeth hwnnw ym [[1270]]).) Caniatawyd iddo feddiant ar [[Buellt|Fuellt]], [[Gwrtheyrnion]] a [[Brycheiniog]] a rhoddwyd iddo gyfle i brofi ei hawl i gadw eraill o arglwyddiaethau'r [[Mers]]. Roedd sicrhau Cytundeb Trefaldwyn yn orchest fawr oherwydd golygai gydnabod fod Llywelyn wedi creu hanfodion politi Cymreig.<ref name=HanesCymru_t142>{{dyf llyfr| awdur=John Davies| teitl=Hanes Cymru| tud=142| cyhoeddwr=Penguin 1990| isbn=9780140125702}}</ref>
 
O safbwynt cyfansoddiadol, y peth pwysicaf a gyflawnwyd trwy Gytundeb Trefaldwyn oedd iddo, ar sail cydsynio rhwng brenin Lloegr a thywysog Cymru, gydnabod sefydliad a elwir yn [[Lladin]] y cytundeb yn ''principatus Wallie'', ymadrodd a fynegir yn gyffredin yn Gymraeg bellach fel "Tywysogaeth Cymru". Bu i'r ymadrodd hwn ddau ystyr. Yn gyntaf golygai swydd neu safle swyddogol tywysog Cymru. Eithr yn fwy cyffredin golygai'r diriogaeth y gweithredai tywysog Cymru fel tywysog o'i mewn. Am dair canrif ar ôl [[1267]] nid oedd ond oddeutu hanner Cymru yn perthyn i'r diriogaeth honno. Yno dechreuwyd defnyddio'r gair "tywysogaeth" am Gymru gyfan, nes i'r ymadrodd syml "Y Dywysogaeth" ddod o'r diwedd yn ddull cydnabyddedig o gyfeirio at Gymru yn ei chyfanrwydd.<ref>Edwards, J. Goronwy; ''Tywysogaeth Cymru: 1267-1967'', tud. 5, Gwasg Prifysgol Cymru 1991, Cyfieithiad gan Gwynn ap Gwilym o waith a gyhoeddwyd ym 1969 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.</ref>