Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B rh-w
B dolenni
Llinell 1:
[[Image:FRE-AIT.svg|thumb|180px|right|Symbol defnyddiwyd cyntaf gan Gyngor Ffederal Sbain Cymdeithas Rhyngwladol y Gweithwyr.]]
 
Cyfundrefn ryngwladol o sawl grŵp asgell chwith [[Sosialaeth|sosialaidd]], [[Comiwnyddiaeth|comiwnyddol]], ac [[Anarchiaeth|anarchaidd]] oedd '''Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr''' (1864-1876) neu'r '''Undeb Rhyngwladol Cyntaf'''. Ei phwrpas, yn ôl y rheolau cyhoeddwyd yn Nhachwedd 1864, oedd i sicrhau cyfathrebiad a chydweithrediad rhwng cyfundrefnau gweithwyr yng ngwledydd gwahanol, at amcan hollol ryddfreiniad y dosbarth gweithiol.<ref>[http://libcom.org/library/rules-iwma libcom.org, ''General Rules of the International Working Mens Association'']</ref>
 
==Hanes==
Cyfarfod o radicaliaid amrywiol yn Neuadd Saint Martin, [[Llundain]], ar y 28ain o Fedi, 1864 oedd genedigaeth y gyfundren. Er i'r cyfarfod cynnwys radicaliaid amrywiol y gyfnod, o [[Cenedlaetholdeb|genedlaetholwyr]] Pwylaidd a [[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Gwyddelig]] a chefnogwyr [[Giuseppe Mazzini|Mazzini]] i sosialwyr Prydeinig ac Almaeneg, erbyn Tachwedd 1864 roedd yn gyfundrefn bur asgell chwith. Ond nid oedd yn athrawiaethol unffurf chwaith, gan adlewyrchu amrywiaeth tueddiadau sosialaidd y cyfnod: [[Siartwyr]], gydweithredwyr yn dilyn traddodiadau y Cymro [[Robert Owen]] a [[Pierre-Joseph Proudhon]] o Ffrainc, ddilynwyr [[Louis Auguste Blanqui]], nifer o sosialwyr Almaeneg a syniadau tebyg i [[Karl Marx]], ac anarchwyr megis [[Mikhail Bakunin]]; daeth cynrychiolwyr o wledydd Ewrop a'r Unol Daleithiau. Aeth nifer o'r sosialwyr Almaeneg ymlaen i fod yn aelodau o Blaid Sosialaidd yr Almaen yn 1872 - roedd yr undeb yn cynnwys diwygwyr a [[chwyldro|chwyldroadwyr]] ill ddau. Roedd Karl Marx ei hun yn aelod allweddol, gan ysgrifennu'r rheolau gyntaf crybwyllwyd uchod<ref>[http://www.marxisthistory.org/subject/usa/eam/firstinternational.html marxisthistory.org, ''The First International in America'']</ref> ac eistedd ar Gyngor Cyffredinol y gyfundrefn hyd at 1872. Cynhaliwyd y cyngres cyntaf yn [[Geneva]] yn 1866.
 
Yn ystod Cyngres y [[Hague]] yn 1872, holltwyd carfanau y gyfundrefn mewn dau. Diarddelwyd Bakunin a sosialwyr gwrth-wladwriaethol tebyg o'r gyfundrefn gan Marx a'i ddilynwyr. Dyma oedd canlyniad datblygiadau yn syniadau sosialaeth wedi [[Comiwn Paris]] 1871. I Marx, methodd y Comiwn oherwydd ei ddiffyg canoli a thrwy wastraff amser ar ddulliau [[democratiaeth|democrataidd]] yn ystod argyfwng, ond i Bakunin ei lwyddiant oedd yr union wrthodiad hyn o'r wladwriaeth canolig. Daeth Bakunin i ddatgan syniadau Marx yn awdurdodol ac yn 1871 wnaeth cynhadledd yn Llundain o'r Cyngor Cyffredinol (a bennwyd gan Marx) datgan yr angen i'r dosbarth gweithiol ffurfio plaid gwleidyddol.<ref>[http://www.marxists.org/archive/marx/works/1871/09/politics-resolution.htm IWMA, ''Resolution of the London Conference on Working Class Political Action'']</ref> Yn ogystal, roedd anghytundebau dros strwythur y gyfundrefn (rhai megis Bakunin yn ffafrio un ffederal) a lleoliad y Cyngor Cyffredinol (Marx a'i ddilynwyr yn cefnogi ei adleoliad i [[Efrog Newydd]]). Roedd cystadleuaeth personol eisoes wedi bydoli rhwng y ddau ffigwr blaengar hyn.<ref>[http://www.marxists.org/reference/archive/guillaume/works/bakunin.htm James Guillaume, Michael Bakunin A Biographical Sketch]</ref> I nifer, diffinia'r digwyddiad dechreuad y rhwyg parhaol rhwng [[Marcsiaeth]] ac anarchiaeth.
 
Yn dilyn cyngres 1872, datganodd y garfan o anarchwyr y penderfyniad yn null gan sefydlu cyfundrefn newydd ei hun, Undeb Rhyngwladol Anarchwyr St. Imier wnaeth parhau tan 1877, yn [[St. Imier]], y [[Swistir]]. Symudodd y gyfundrefn wreiddiol i Efrog Newydd, ond nid oedd ganddo niferoedd na fri ei dyddiau cynt, gan ddod i ben yn 1876. Ers hyn, sefydlwyd nifer o undebau rhyngwladol [[Marcsiaeth|Marcsaidd]] ac anarchaidd gan weld eu hun yn olynwyr i'r gyfundrefn wreiddiol.