Thomas Jefferson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s, cat |
{{angen ffynhonnell}} |
||
Llinell 24:
Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng [[1758]] a [[1760]], ac aeth i'r coleg yn [[Williamsburg]] yn 16 oed, lle bu'n astudio dan [[William Small]]. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn [[1767]].
Yn [[1772]], priododd wraig weddw, [[Martha Wayles Skelton]] (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, [[Sally Hemings]],{{angen ffynhonnell}} ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn [[Monticello]] [[4 Gorffennaf]] [[1826]].
Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o [[Eryri]]. Yn ystod yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn y [[Faenol]] ger [[Bangor]] yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.
|