Eileen Beasley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Eileen''' a '''Trefor Beasley''' yn enwog am eu hymgyrch i gael papur treth Cymraeg (neu ddwyieithog) oddi wrth Gyngor Gwledig Llanelli. Yn y cyfnod hwn [[1952]] nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol oddi wrth gyrff cyhoeddus, dim achosion llys nac arwyddion ffyrdd dwyieithog.
 
Un o ardal Hendy-gwyn ar Dâf oedd Eileen. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd a daeth yn athrawes. Colier yn Mhwll y Morlais Llangennech oedd Trefor. Gwnaethont gwrdd yng nghyfarfodydd Plaid Cymru a daethant dan ddylanwad [[D.J. Davies (economegydd)|D.J.Davies]] a'r [[WEA]].
 
Gwnaeth Eileen a Trefor briodi ar y 31 Gorffennaf 1951 a phrynu tŷ yn yr Allt, Llangennech yn 1952. Dyna pryd y cawasant y syniad y dylent wrthod talu y dreth ar y tŷ oni caent gais yn Gymraeg. Buont yn y llys 16 gwaith ac fe fu'r bwmbeiliaid yno bedair gwaith. <ref> Darlith gan wyr i Trefor ac Eileen ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012</ref>