Ibn Sahl o Sevilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Ibn Sahl''' (Arabeg: أبو إسحاق إبرهيم بن سهل الإسرائيلي الإشبيلي '''Abu Ishaq Ibrahim Ibn Sahl al-Isra'ili al-Ishbili''') o Sevilla (...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Ibn Sahl''' ([[Arabeg]]: أبو إسحاق إبرهيم بن سهل الإسرائيلي الإشبيلي '''Abu Ishaq Ibrahim Ibn Sahl al-Isra'ili al-Ishbili''') o [[Sevilla]] ([[1212]]-[[1251]]) oedd un o [[bardd|feirdd]] mwyaf [[Andalusia]] yn y [[13eg ganrif]].
 
Ganed Ibn Sahl yn 1212-3 mewn teulu [[Iddewon|Iddewig]] yn [[Sevilla]] (de [[Sbaen]]). Eisoes erbyn [[1127]] roedd yn fardd adnabyddus. Er gwaethaf ei gefndir Iddewig roedd Ibn Sahl yn [[Islam|Fwslim]] diffuant ac mae ei 'diwan' ([[blodeugerdd]] o'i waith) yn dyst i'w deimladau crefyddol dwys. Ymddengys iddo droi'n Fwslim yn gynnar yn ei fywyd.
 
Pan syrthiodd Sevilla i ddwylo [[Ferdinand III o Castile]] yn [[1248]], ymadawodd Ibn Sahl am ddinas [[Ceuta]] (gogledd [[Moroco]] heddiw), lle cafodd swydd fel ysgrifenydd i'r llywodraethwr [[Almorafidiaid|Almorafid]] [[Abu Ali Ibn Khallas]]. Pan anfonodd Ibn Khallas ei fab i wasanaethu [[al-Mustanir I]], [[califf]] [[Hafsidiaid]] [[Ifriqiya]], penderfynodd anfon Ibn Sahl yn gwmni iddo ar y fordaith. Ond llongrylliwyd eu galeri a boddwyd y teithwyr i gyd cyn cyrraedd [[Tunis]]. Yn ôl traddodiad, pan glywodd Ibn Khallaa hynny dywedodd: "Dychwelwyd y perl i'r môr."