Krav Maga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B s
Llinell 2:
System eclectig o [[hunan-amddiffyn]] anghystadleuol sy'n tarddu o [[Israel]] yw '''Krav Maga''' ([[Hebraeg]]: קרב מגע, "brwydro cyffyrddiad") sy'n cynnwys technegau taro, gafael, ac ymgodymu. Mae'n canolbwyntio ar sefyllfaoedd realistig a defnyddio [[gwrth-ymosod]]iadau grymus ac effeithlon. Datblygodd y [[crefft ymladd|grefft ymladd]] hon o sgiliau [[ymladd y stryd]] [[Imi Lichtenfeld]], [[paffiwr]] ac [[ymgodymwr]] a amddiffynodd ardal Iddewig [[Bratislava]] rhag grwpiau ffasgaidd yn y 1930au. Yn y 1940au diweddar, wedi iddo ymfudo i Israel, dechreuodd rhoi gwersi ymladd i [[Lluoedd Amddiffyn Israel|Luoedd Amddiffyn Israel]] (IDF) ac yn hwyrach datblygwyd system Krav Maga. Addaswyd y system ar gyfer lluoedd milwrol, yr heddlu, a sifiliaid.
 
Mae gan Krav Maga athroniaeth sy'n pwysleisio niwtraleiddio bygythiadau, symudiadau amddiffynnol ac ymosodol ar y cyd, ac [[ymosodedd]]. Defnyddir Krav Maga gan luoedd rheolaidd ac arbennig yr IDF, [[Mossad]], [[Shin Bet]], [[CIA]], [[FBI]], [[Gwasanaeth Marsialiaid yr Unol Daleithiau|Marsialiaid yr UnlUnol Daleithiau]], [[Awyrlu'r Unol Daleithiau]], [[DEA]], [[Marsialiaid yr Awyr]], nifer o heddluoedd a thimoedd [[SWAT]], [[GIGN]], [[Byddin Gwlad Belg]], ac eraill. Mae nifer o sefydliadau ar draws y byd yn addysgu Krav Maga neu fersiynau amrywiol ohonno i unigolion.