BitTorrent: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: te:బిట్‌టోరెంట్ (deleted)
Llinell 4:
 
==Disgrifiad==
Defnyddir BitTorrent i leihau'r effeithiau ar weinyddion a rhwydweithiau o ddosbarthu ffeiliau mawr. Yn hytrach na bod pawb yn lawrlwytho ffeil o'r un ffynhonnell, mae'r protocol BitTorrent yn caniatáu defnyddwyr i ymuno a haid o westeiwyr i lawrlwytho ac uwchlwytho gan eigyda'i gilydd ar yr un pryd. Gall y protocol gweithio dros rwydweithiau gyda chyflymderau isel fel bod cyfrifiaduron bychan, fel ffonau symudol, yn medru dosbarthu ffeiliau i lawer o dderbynwyr.
 
I rannu ffeil, mae defnyddiwr yn creu ffeil torrent bach sy'n cynnwys disgrifiad o'r ffeil ac yn ei ddosbarthu mewn ffyrdd arferol, fel ar wefan neu mewn ebost. Mae yna yn gwneud y ffeil ar gael drwy ei hadu yn ei gleient BitTorrent; hwn yw'r hadwr cyntaf. Mae eraill gyda'r ffeil torrent yn ei agor yn ei gleient BitTorrent nhw, sydd yna yn cysylltu â'r hadwr a/neu gyfoedion eraill ac yn lawrlwytho'r cynnwys ganddynt.