Diplomyddiaeth y Ddoler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudwyd y dudalen Diplomyddiaeth Doler i Diplomyddiaeth y Ddoler gan Adam: yn ol Geiriadur yr Academi
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{ImperialaethNewydd}}
Term ar [[polisi tramor|bolisi tramor]] [[yr Unol Daleithiau]] dan yr Arlywydd [[William Howard Taft]] (1909&ndash;13) yw '''Diplomyddiaeth y Ddoler'''. Cred Taft a'i Ysgrifennydd Tramor, [[Philander C. Knox]], oedd y ddylai [[diplomyddiaeth]] Americanaidd anelu at greu [[trefn ryngwladol]] oedd yn fuddiol i ddiddordebau economaidd yr Unol Daleithiau.<ref name=State>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://history.state.gov/milestones/1899-1913/DollarDiplo |teitl=Dollar Diplomacy, 1909-1913 |cyhoeddwr=Swyddfa'r Hanesydd, Adran Dramor yr Unol Daleithiau |dyddiadcyrchiad=24 Awst 2012 }}</ref> Canolbwyntiodd Diplomyddiaeth y Ddoler ar [[America Ladin]] a [[Dwyrain Asia]].
Term sy'n cael ei ddefnyddio (gan y rhai sy'n ei wrthwynebu) i ddisgrifio ymdrechion [[yr Unol Daleithiau]] – yn bennaf yn ystod gweinyddiaeth [[William Howard Taft|yr Arlywydd Taft]] – i hyrwyddo'i bolisi tramor yn [[America Ladin]] a [[Dwyrain Asia]] gan ddefnyddio'i nerth economaidd, trwy warantu benthyciadau i wledydd tramor, yw '''Diplomyddiaeth Doler'''.
 
Wrth graidd y polisi oedd y cred bydd [[buddsoddiad]] Americanaidd mewn gwledydd eraill yn creu sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol. Ceisiodd Taft a Knox i berswadio wledydd eraill i adael busnesau Americanaidd masnachu ynddynt ac i fenthyg o fanciau Americanaidd. Er y ffocws ar ddulliau economaidd ac ariannol, nid oedd Diplomyddiaeth y Ddoler yn diystyru ymyrraeth wleidyddol neu filwrol.<ref>Evans, G. a Newnham, J. ''The Penguin Dictionary of International Relations'' (Llundain, Penguin, 1998), t. 132.</ref> Ym 1909 darparodd yr Unol Daleithiau gefnogaeth i [[Juan José Estrada]] yn ei wrthryfel yn erbyn [[José Santos Zelaya]], Arlywydd [[Nicaragua]]. Wedi i Zelaya gael ei ddymchwel, sicrhaodd Knox rheolaeth Americanaidd dan yr Arlywyddion Estrada ac [[Adolfo Díaz]]. Benthycodd [[Brown Brothers]] a [[J. and W. Seligman]], dau fanc a leolir yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]], $15&nbsp;miliwn i Nicaragua, a chafodd hwy reolaeth dros asiantaeth dollau'r wlad er mwyn sicrhau ad-daliad.<ref>Kinzer, S. ''Overthrow: America's Century of Regime Change from Hawaii to Iraq'' (Efrog Newydd, Henry Holt, 2006), tt. 98&ndash;9.</ref>
 
Er ambell lwyddiant, ni allai Diplomyddiaeth y Ddoler atal chwyldroadau ym [[Chwyldro Mecsico|Mecsico]], [[meddiannaeth Nicaragua gan yr Unol Daleithiau|Nicaragua]], a [[Chwyldro Xinhai|Tsieina]].<ref name=State/>
 
== Gweler hefyd ==
* [[Atodiad Roosevelt]]
* [[Athrawiaeth Clinton]]
* [[Athrawiaeth Monroe]]
* [[Cynllun Marshall]]
* [[Diplomyddiaeth genhadol]]
* [[Diplomyddiaeth y Ffon Fawr]]
* [[Imperialaeth economaidd]]
* [[Memorandwm Clark]]
* [[Neo-wladychiaeth]]
* [[Polisi'r Cymydog Da]]
* [[Rhyfeloedd Banana]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Cysylltiadau tramor yr Unol Daleithiau]]
[[Categori:Diplomyddiaeth|Doler, Diplomyddiaeth]]
[[Categori:Hanes gwleidyddol yr Unol Daleithiau]]
[[Categori:Imperialaeth Newydd]]
{{eginyn cysylltiadau rhyngwladol}}
 
[[az:Dollar diplomatiyası]]