Surop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
ehangu - coginiaeth, meddyginiaeth
Llinell 1:
{{Dim-ffynonellau|date=06/12}}
[[Delwedd:PancakesWithSyrup.jpg|bawd|[[Surop masarn]] ar [[crempog|grempogau]].]]
[[Hylif]] trwchus a melys yw '''surop''' a wneir trwy [[hydoddi]] [[siwgr]] mewn dŵr berw. Yn y gegin caiff ei flasu â'i roi ar fwyd, yn enwedig [[pwdin]]au a bwydydd melys, neu ei ddefnyddio i [[bwyd cadw|gadw bwyd]], gan amlaf [[ffrwyth]]au. Weithiau defnyddir surop â [[moddion]] ynddo i drin [[peswch]] er enghraifft. Gall surop hefyd gyfeirio at [[sudd]] crynodedig ffrwyth neu blanhigyn.
 
== Coginiaeth ==
[[Delwedd:PancakesWithSyrup.jpg|bawd|[[Surop masarn]] ar [[crempog|grempogau]]. Gellir hefyd arllwys surop masarn dros [[waffl]]au ac [[hufen iâ]].]]
Daw suropau coginio gan amlaf o [[grawn|rawn]], ffrwythau, neu [[sudd (botaneg)|sudd]] planhigion a choed. Gellir arllwys surop dros fwyd, yn enwedig suropau persawrus megis [[surop masarn]], neu ei ddefnyddio fel cynhwysyn. Cynhwysyn melys yw surop a ddefnyddir gyda siwgr, neu yn ei le. Mewn [[cacen goch]], er enghraifft, mae surop yn rhoi iddi ansawdd llaith a thrwchus. Mewn [[fflapjac]]s, mae surop yn pobi â siwgr, menyn a cheirch i greu cymysgedd yn debyg i [[toffi|doffi]]. Coginir fflapjacs am gyfnod byr i'w gwneud yn gnoadwy, neu'n hirach i'w gwneud yn galed.<ref>Good Housekeeping ''Food Encyclopedia'' (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 412.</ref>
 
Gwneir [[triagl]] (neu driog) trwy goethi siwgr o'r [[cansen siwgr|gansen]]. Mae gan y surop trwchus a thywyll a elwir yn [[triagl du|driagl du]] flas chwerw yn debyg i [[licris]].<ref name=FE-411>''Food Encyclopedia'', t. 411.</ref> Ceir math arall o driagl, yn drwchus ond yn felyn-aur ei liw ac â blas melys iawn, o'r enw [[triagl melyn]]. Gellir ei arllwys dros fwydydd neu ei ddefnyddio mewn cymysgeddau [[teisen]]ni a [[bisged]]i, ac i wneud [[saws]]iau megis [[menyn caramel]].<ref name=FE-410>''Food Encyclopedia'', t. 410.</ref>
 
Daw [[surop corn]] o [[blawd corn|flawd corn]], a chanddo flas sydd fymryn yn felys.<ref name=FE-410/> Cynhyrchir surop masarn yng Nghanada a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau trwy dapio'r [[masarnen|fasarnen]] am ei sudd, a'i ferwi gan adael surop. Gwneir [[surop palmwydd]], sy'n boblogaidd yn y Dwyrain Canol, India, a De America, drwy broses debyg. Rhoddir surop palmwydd mewn [[siytni]] yn ogystal â theisenni a bisgedi. Un o'r suropau mwyaf cyffredin a ddaw o rawn yw [[surop heiddfrag]] (neu rhin frag) a gynhyrchir drwy fragu grawn [[haidd]] a'u berwi i greu'r surop tewychedig. Mae ganddo flas brag arbennig, ac fe'i gymysgir ag [[ysgytlaeth]]au a diodydd poeth yn ogystal â bwydydd melys.<ref name=FE-411/>
 
Ceir hefyd suropau [[tafarn|bar]] i wneud diodydd cymysg a [[coctel|choctels]], megis [[grenadin]]. Surop di-alcoholig yw grenadin a wneir o [[pomogranad|bomogranad]], ac fe'i ddefnyddir i liwio coctels a rhoi iddynt flas melys.<ref>Halley, Ned. ''The Wordsworth Ultimate Cocktail Book'' (Ware, Wordsworth, 1998), t. 293.</ref><ref>''The Bartender's Book'' (Caerfaddon, Parragon, 2008), t. 61.</ref>
 
== Meddyginiaeth ==
[[Delwedd:Cocillana.JPG|bawd|Potel o surop meddyginiaethol i drin peswch. Mae cwpan bach ar gaead y botel i fesur y dos.]]
[[Toddiad]] o siwgr, yn aml [[swcros]], mewn dŵr a ddefnyddir i gludo moddion trwy'r geg yw surop meddyginiaethol.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://medical-dictionary.thefreedictionary.com/syrup |cyhoeddwr=medical-dictionary.thefreedictionary.com |teitl=syrup |dyddiadcyrchiad=27 Awst 2012 }}</ref> Mae melysrwydd y hylif yn ei wneud yn haws i gleifion, yn enwedig plant, i lyncu'r moddion. Yn aml daw moddion [[dros y cownter]] i leddfu peswch ar ffurf surop, ond er ei fod yn boblogaidd iawn, nid oes tystiolaeth ddigonol bod y math hwn o feddyginiaeth yn effeithiol.<ref>{{cite journal |author=Smith SM, Schroeder K, Fahey T |title=Over-the-counter medications for acute cough in children and adults in ambulatory settings |journal=Cochrane Database Syst Rev |volume= |issue=1 |pages=CD001831 |year=2008 |pmid=18253996|doi=10.1002/14651858.CD001831.pub3 |url= |editor1-last=Smith |editor1-first=Susan M}}</ref>
 
== Gweler hefyd ==
* [[Mêl]]
 
* [[Saws]]
== Cyfeiriadau ==
* [[Triog]]
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Suropau| ]]
Llinell 12 ⟶ 25:
[[Categori:Siwgr]]
[[Categori:Triniaethau meddygol]]
{{eginyn bwyd}}
 
[[ar:شراب صيدلاني]]