Brwydr Plassey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B teipio
ffynhonnell
Llinell 2:
Ymladdwyd '''Brwydr Plassey''' ar [[23 Mehefin]], [[1757]], ger tref Plassey ym [[Bengal|Mengal]], gogledd-ddwyrain [[India]]. Curodd y lluoedd [[Prydain|Prydeinig]] dan y cadfridog [[Robert Clive]] ("Clive o India") fyddin [[Surajah Dowlah]], [[Nawab]] [[Bengal]].
 
Roedd y nawabNawab ac eraill wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Prydeinwyr a [[Cwmni Dwyrain India|Chwmni Dwyrain India]] gan gipio [[Calcutta]]. Ail-gipiodd Clive y ddinas honno, lle carcharwyd tua chant o bobl yn y "Twll Du" enwog, o ddwylo'r gwrthryfelwyr cyn mynd yn ei flaen i gwrdd â'r gwrthryfelwyr ger Plassey. Un o'r rhesymau am ei fuddugoliaeth oedd brad rhai o gadfridogion y nawab dan arweinyddiaeth [[Mir Jafar]] a aethant drosodd i'r ochr fuddugol yn ystod y frwydr.
 
Canlyniad pwysicaf y frwydr oedd cadarnhau ac ymestyn rheolaeth Prydain ar ddwyrain India, yn wyneb cystadleuaeth gan [[Ffrainc]] (roedd Prydain a Ffrainc yn ymladd y [[Rhyfel Saith Mlynedd]] yn [[Ewrop]] yr adeg honno yn ogystal). Gosodwyd un o gonglfeini'r [[Ymerodraeth Brydeinig]], sef reolaeth ar is-gyfandir India i gyd erbyn diwedd y [[18fed ganrif]].
 
==Ffynhonnell==
* [http://militaryhistory.about.com/od/frenchindianwar/p/Seven-Years-War-Battle-Of-Plassey.htm Gwefan Saesneg About.com]
 
==Gweler hefyd==
* [[Rhestr brwydrau]]
 
[[Categori:1757]]