Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Chwyldro Iemen"

Ychwanegwyd 949 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
diweddaru
B (r2.7.3) (robot yn newid: pl:Rewolucja w Jemenie (2011-2012))
(diweddaru)
 
Ar y 18ed o Ebrill 2011 saethwyd 40 o bobl mewn protest heddychlon a saethwyd llawer a oedd yn cymryd rhan mewn protestiadau wedi hynny. Erbyn y 23 Ebrill roedd tri o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo oherwydd y saethu. Gwelwyd lluniau ar [[Al Jazeera]] o filwyr y wlad yn cyhoeddi eu bont yn ochri gyda'r garfan wrth-lywodraeth. Drennydd, ar y 19eg o Ebrill, cyhoeddodd Ali Abdullah Saleh y byddai'n ymddiswyddo o fewn 30 diwrnod ac y byddai'n galw etholiad o fewn 60 diwrnod. Cafwyd cytundeb na fyddai'n cael ei erlyn am gyn-droseddau.
 
==Ymddiswyddiad Saleh==
Cynhaliwyd etholiad am arlywyddiaeth y wlad ar 21 Chwefror 2012 ac adroddwyd y pleidleisiodd 65% o'r etholwyr. Enillodd [[Abd Rabbuh Mansur al-Hadi]] 99.8% o'r bleidlais. Cymerodd y llw yn senedd y wlad ar 25 Chwefror 2012. Dychwelodd y cyn-Brifweinidog adref i fod yn rhan o'r seremoni hwn.<ref name=nytnewpres>{{cite news|url=http://www.nytimes.com/2012/02/26/world/middleeast/abed-rabu-mansour-hadi-sworn-in-as-yemens-new-president.html|accessdate=15 Awst 2012|work=The New York Times|title=Yemen Swears In New President to the Sound of Applause, and Violence|first=Laura|last=Kasinof|date=27 February 2012}}</ref> Ymddiswyddodd Saleh gan dderbyn yr arlywyddiaeth newydd. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig ac yn dod a phennod i ben, ar ôl 33 mlynedd fel Arlywydd.<ref name="google.com">http://www.google.com/hostednews/afp/article/ALeqM5iqhKKOqo6XDujeTI_yaD4B0CcyVA?docId=CNG.12cc0199ecc6457c2d2a25874218f73d.691</ref>
 
 
==Gweler hefyd==
* [[Y Gwanwyn Arabaidd]]