Integryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8:
==Integryn pendant==
[[Delwedd:Integral as region under curve.png|thumb|right|250px|Yr arwynebedd, ''S'', dan y graff yw'r integryn pendant, <math> \int_{a}^{b} f(x)\, dx </math>]]
Ystyriwch wrthrych sy'n teithio ar [[buanedd|fuanedd]] cyson. Gellir darganfod y pellter a deithiwyd ar ôl rhyw amser ''x'' drwy luosi'r buanedd gyda'r [[amser]]. Ystyriwch yn awr wrthrych sy'n teithio ar fuanedd anghyson, ''f''. Ar y graff ar y dde, ''y'' = ''f'', ''x'' yw amser, ac ardal ''S'' yw'r pellter a deithiwyd yn ystod y cyfnod ''b'' - ''a''. Nid yw lluosi ''f'' gyda ''x'' yn ddigonol i ddarganfod y pellter a deithiwyd gan fod y buanedd yn newid o un eiliad i'r llall. Fodd bynnag gallem rannu'r cyfnod o amser i mewn i gynyddrannau bach ''δx''. Yna ar gyfer pob cynyddran amser ''δx'' gallem luosi un o'r buenydd ''f'' yn ei ystod gyda ''δx''. Yn olaf er mwyn cael bras amcan o'r pellter ''S'' a deithiwyd yn ystod y cyfnod amser gallem adio i fynny'r cynyddrannau pellter ''f'' * ''δx'':
 
<math> S \approx \sum f\ \delta x. </math>