Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd yr oedd y cystadlaethau llenyddol yn Gymraeg i gyd. Hefyd penderfynodd y Pwyllgor Gwaith nad oedd neb i gael llywyddu yn yr Eisteddfod hon oni byddai naill ai yn gwasanaethu Cymru ar hyn o bryd neu â chysylltiad byw â hi. Yn ôl erthygl yn ''Atgofion Eisteddfod 1938'' yn Rhaglen y Dydd, Eisteddfod 2008, cafwyd o'r diwedd [[Y Babell Lên|Babell Lên]] deilwng o'r Eisteddfod, [[Theatr Tywysog Cymru]] at wasanaeth y ddrama, a [[Neuadd y Ddinas]] i'r [[Arddangosfa Celf a Chrefft]].
 
Yn ôl yr un erthygl, cynhaliwyd brynhawn Mercher gyfarfod yn Neuadd y Ddinas, dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg i ystyried safle gyfreithiol yr iaith Gymraeg. Penderfynwyd mynd ymlaen â'r [[Deiseb Genedlaetholyr Iaith|Ddeiseb Genedlaethol]] i hawlio cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith yn llysoedd barn Cymru ac yn ei bywyd cyhoeddus. Ddydd Llun, cynhaliodd [[Cymdeithas y Cymmrodorion]] gyfarfod i ystyried cyhoeddi [[Y Bywgraffiadur Cymreig|Geiriadur Bywgraffyddol Cenedlaethol]] o dan olygiaeth [[R.T. Jenkins]] a [[J.E. Lloyd]].
 
Rhoddwyd y gadair gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd am awdl ar un o ddau destun, sef 'Rwyn edrych dros y bryniau pell' neu 'Trystan ac Esyllt'. Y beirniaid oedd [[T. Gwynn Jones]] a [[Saunders Lewis]].