Pasbort: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
Llinell 3:
[[Delwedd:JapanpassportNew10y.PNG|thumb|bawd|dde|200px|[[E-basbort]] cyfoes Siapaneaidd]]
[[Delwedd:ColombianBiometricPassport1.jpg|bawd|dde|200px|Pasport|Colombaidd a ellir ei ddarllen gan beiriant]]
Dogfen a gyhoeddir gan [[llywodraeth|lywodraeth]] cenedlaethol yw '''pasport''', sy'n tystio [[hunaniaeth]] a [[cenedligrwydd|chenedligrwydd]] person, er mwyn teithio'n ryngwladol. Yn yr ystyr hwn, mae elfennau'r hunaniaeth yn cynnwys enw, dyddiad geni, rhyw, a lleoliad geni. Fel rheol mae cenedligrwydd a [[dinasyddiaeth]] person yn unfath.
 
Nid yw pasport yn ei hun yn rhoi'r hawl i'r deilydd deithio i fewn i wlad arall, na'r hawl i dderbyn [[Cymorth consylaidd|amddiffyniad consylaidd]] na hawliau eraill arbennig tra dramor. Ond, mae fel rheol yn rhoi'r hawl i'r deilydd ddychwelyd i'r wlad lle cyhoeddwyd y basbort. Mae'r hawliau i dderbyn amddiffyniad consylaidd yn tarfu o gytundebau rhyngwladol rhwng gwledydd unigol, a'r hawl i ddychwelyd yn dibynnu ar gyfraith y wlad honno. Nid yw pasport yn cynyrchioli bod gan y deilydd hawliau na chartref yn y wlad lle'i cyhoeddwyd.