BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Darlledu yng Nghymru
Llinell 26:
[[delwedd:Bbc_broadcasting_house_front.jpg|dde|bawd|200px|BBC Broadcasting House, [[Llundain]].]]
Mae’r 1920’ai yn gweld creadigaeth y BBC fel sefydliad a darlledydd. Gwnaeth [[John Reith]] creu’r ethos sef i hysbysu, addysgu ac i adlonni- model sy’n addas ar gyfer unrhyw [[darlledwr cyhoeddus|ddarlledwr cyhoeddus]]. Profwyd radio i fod yn boblogaidd iawn trwy’r wlad efo cynnydd mawr yn werthiant y [[radio]]. Yn ystod y [[Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926|Streic gyffredinol]] yn 1926 wynebodd y BBC gwrthdaro mawr efo’r llywodraeth ynglŷn ag annibyniaeth olygyddol y darlledwr. Erbyn y 1930’ai ehangodd y sefydliad efo hyder, ac roedd yr ''Broadcasting House'' sef y canolfan darlledu cyntaf o’r fath ym Mhrydain yn symbolaidd o hyn. Yn ogystal roedd y gwasanaeth yn arloesi efo’r dewis cynyddol o raglenni radio ac mae yna hefyd arbrofion darlledu [[teledu]] dan arweiniad John Logie Baird sef dyfeisiwr y [[teledu]]. Chwaraeodd y BBC rhan allweddol bwysig trwy ddarlledu yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] er bod darllediadau teledu wedi darfod dros y cyfnod. Gwnaeth [[Winston Churchill]] nifer o areithiau ysbrydol dros y tonnau awyr ac roedd y gwasanaeth newyddion yn fudd i nifer o bobl yn rhyngwladol. Tua diwedd y 1940’ai mae radio yn darlledu ychydig o adloniant ysgafnach hefyd efo rhaglenni hir dymor megis ''Womans Hour'' a ''Book at Bedtime''.
 
==== BBC yng Nghymru====
Dechreuodd darlledu yng Nghymu ar 13 Mehefin 1923. Darlledwyd y Gymraeg am y tro cyntaf gyda Mostyn Thomas yn canu ''Dafydd y Garreg Wen'' <ref>yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 225 </ref>
 
===1950-1970===
Llinell 49 ⟶ 52:
Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd [[S4C]], rhaglenni radio yn Gymraeg ar [[BBC Radio Cymru]] ac arlein ar wefan BBC Cymru.
 
Mae'r wefan BBC yn cynnwys [[newyddion]], [[chwaraeon]], [[tywydd]], a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni [[BBC Cymru]] a [[Radio Cymru]], ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys [[crefydd]], [[y celfyddydau]], [[hanes]] ac [[iaith]]. Mae'n hefyd yn cynnwys rhaglenni cymraeg ar [[BBC iplayer]]. Mae'r is-wefan yn darparu cyfleustra o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad [[Saesneg]] os lleolir y pwyntydd llygoden dros y gair. <ref>yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 272/3 </ref>
 
==Ffynonellau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==