Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32:
Cyfyngir digwyddiadau y Gainc Gyntaf, ''Pwyll Pendefig Dyfed'', yn gyfangwbl i Ddyfed, ac yn neilltuol i ardal y [[Preseli]]. Ac eithrio "gwibdaith" i [[Gwent|Went]] sy'n ymylol i brif ffrwd y chwedl, mae pob dim yn digwydd o fewn cylch o tua pymtheg milltir o [[Arberth]], prif lys Pwyll (gogledd [[Sir Benfro]] heddiw. Mae daearyddiaeth y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', yn fwy cyfyng eto; Dyfed hud a lledrith o gwmpas Arberth a "gwibdaith" i [[Henffordd]] (yn [[Lloegr]] heddiw ond yn rhan o deyrnas [[Powys]] yn yr Oesoedd Canol cynnar).
 
Yn achos yr Ail a'r Bedwaredd Gainc mae'r darlun yn wahanol iawn. Mae prif ddigwyddiadau'r ddwy gainc yn digwydd yn yr hen [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]], gydag ambell "gwibdaith" y tu allan i'r deyrnas honno. YnDigwydda straeon yr Ail Gainc, ''Branwen ferch Llŷr'', mae'r digwyddiadau'n cymryd lle ym [[Môn]] ([[cantref]] [[Aberffraw (cantref)|Aberffraw]] a [[Cwmwd|chwmwd]] [[Talybolion]]), cantref [[Arfon]] a [[Harlech]] yn [[Ardudwy]] sy'n fel prifddinas [[Ynys Prydain]] yn y chwedl. Ceir dwy wybdaith yn chwedl Branwen, un i [[Iwerddon]] a'r llall i ynys [[Gwales]] arallfydol a'r [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]].
 
Dim ond yn y Bedwaredd Gainc, ''Math fab Mathonwy'', y gwelir lleoli manwl gyda'r digwyddiadau'n cymryd lle yn Arfon, [[Arllechwedd]], [[Llŷn]], [[Eifionydd]] ac [[Ardudwy]] (cnewyllyn teyrnas Gwynedd, sy'n cyfateb yn fras i'r hen [[Sir Gaernarfon]]. Ceir gwybdaith yma hefyd, wrth i Wydion ymweld â llys Pryderi yn [[Rhuddlan Teifi]] yn Nyfed i ddwyn moch hud a lledrith Pryderi yn ôl i Wynedd.
 
==Llyfryddiaeth==