Yr Almaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: prif
Llinell 56:
 
== Hanes ==
''Prif erthygl: [[{{prif|Hanes yr Almaen]]''}}
 
Y cofnod cyntaf o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth [[yr Almaen]]. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o [[Afon Rhein]] yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn [[9|9 OC.]] gorchfygwyd byddin Rufeinig dan [[Publius Quinctilius Varus]] gan gynghrair o lwythau Almaenig dan [[Arminius]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]]. Dinistriwyd tair [[lleng Rufeinig]] yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
 
Sefydlwyd [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] yn y [[9fed ganrif]], a pharhaodd hyd [[1806]]. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys [[Awstria]], [[Slovenia]], [[Gweriniaeth Tsiec]], gorllewin [[Gwlad Pwyl]], [[yr Iseldiroedd]], dwyrain [[Ffrainc]], [[y Swistir]] a rhan o ogledd [[yr Eidal]]. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y [[16eg ganrif]], a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".