Bovium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cyfeiriadau: cat |
B cywiro |
||
Llinell 1:
Safle gweithfa neu ''depot'' [[lleng Rufeinig]] [[caer Rufeinig|caer]] [[Deva]] ([[Caer]]), ar safle pentref [[Holt]], ger [[Wrecsam]], oedd '''Bovium''' (enw [[Lladin]]), lle cynhyrchid crochenwaith a theiliau at ddefnydd miwrol a sifil. Gorwedd y safle ar lan orllewinol [[afon Dyfrdwy]].
Roedd yn arfer gan y llengoedd Rhufeinig sefydlu ''depots'' o'r fath ger y prif gaerau er mwyn cael cyflenwad o ddeunyddiau - crochenwaith a deunydd adeiladu fel arfer - i'r gaer a'i garsiwn. Cyfeirir at Bovium yn yr ''Itinerarium Augustunium'' am [[
Cafwyd olion gweithdai, siedau sychu ac [[odyn]]au ar gyfer cynhyrchu teiliau a chrochenwaith ar y safle yn Holt pan gloddiodd T. A. Acton yno ddiwedd y 1900au a dechrau'r 1910au. Roedd Bovium yn cynhyrchu'r deunydd yma rhwng tua [[90]] a [[125]] OC. Mae rhai o'r teiliau to wedi eu stampio a'r arwydd '''LEG XX VV''' ([[Legio XX Valeria Victrix]]), arwydd y lleng Rufeinig honno oedd a'i phencadlys yng Nghaer.
|