Chwyldro Hwngari (1956): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:Hole in flag - Budapest 1956.jpg|bawd|Baner Hwngari gyda'r arfbais gomiwnyddol wedi ei thorri allan. Daeth y faner hon yn symbol o'r chwyldro.]]
 
Gwrthryfel yn erbyn llywodraeth [[Gweriniaeth Pobl Hwngari]] oedd '''Chwyldro Hwngari, 1956''' a barhaodd o 23 Hydref hyd 10 Tachwedd 1956. Cychwynnodd fel gwrthdystiad gan filoedd o fyfyrwyr a orymdeithiodd trwy ganol [[Budapest]] i adeilad y Senedd. Ceisiodd carfan o'r myfyrwyr ddarlledu eu gofynion o tu fewn i'r adeilad radio, ond cawsant ei rhwystro a'u dal. Pan fynnodd y torfeydd tu allan i'r myfyrwyr gael eu rhyddhau, dechreuodd Heddlu Diogelwch y Wladwriaeth (ÁVH) saethu ar y torfeydd tu allan o tu fewn i'r adeilad. Ymledodd y newyddion yn gyflym gan esgor ar anhrefn a thrais trwy'r brifddinas.