Meirionnydd Nant Conwy (etholaeth seneddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
copyvio!
Llinell 9:
SE = Cymru |
}}
Etholaeth '''Meirionnydd Nant Conwy''' yw'r enw ar [[etholaeth seneddol]] yn [[San Steffan]]. [[Elfyn Llwyd]] ([[Plaid Cymru]]) yw'r Aelod Seneddeol.
Mae hon yn etholaeth fawr yn ddaearyddol ond mae nifer yr etholwyr gyda'r lleiaf yng [[Nghymru]] a [[Lloegr]]. Mae [[Plaid Cymru]] wedi llwyddo i ddadlau yn erbyn newid y ffiniau ar y sail bod yr etholaeth yn achos arbennig am resymau cymdeithasol ac ieithyddol. Ystyrir yr etholaeth fel cartref ysbrydol [[cenedlaetholdeb Cymreig]] ac [[Anghydffurfiaeth]]. Roedd prif lys [[Owain Glyndwr]] yn [[Harlech]], ac roedd cwymp y castell yn arwydd bod ei wrthryfel wedi methu. Mae’r [[Y Bala|Bala]] wedi bod yn gartref i golegau diwinyddol, tri wythnosolyn Cymraeg, canolfan breswyl Mudiad Efengylaidd Cymru a gwersyll [[Urdd Gobaith Cymru]]. Ychydig filltiroedd o’r dref mae cronfa ddwr [[Tryweryn]] oedd yn drobwynt yn hanes y mudiad cenedlaethol yng Nghymru.
 
Boddwyd y dyffryn gan Gorfforaeth Lerpwl ar ddechrau'r 1960au er gwaethaf gwrthwynebiad cryf iawn yng Nghymru. Dyna, meddir, a drodd Plaid Cymru o fod yn fudiad ymylol i fod yn rym gwleidyddol a chreu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Trefi pwysig eraill yw [[Dolgellau]] a'r [[Abermaw|Bermo]]. Does fawr o ddiwydiant yn ne'r sir, ar wahân i amaethyddiaeth a thwristiaeth, a'r ychydig weithwyr sy'n gofalu am ddadgomisiynu [[Atomfa Trawsfynydd]]. Ar wahân i'r golygfeydd dramatig, does fawr arall i drigolion ardaloedd megis [[Blaenau Ffestiniog]].
 
Mae hon yn sedd ddiogel i Blaid Cymru yn [[San Steffan]] ac fe ddylai fod yn Etholiadau’r Cynulliad eleni hefyd. Enillwyd y sedd gan [[Dafydd Elis Thomas]] ar ran y blaid ym [[1974]] ac yna gan [[Elfyn Llwyd]] ym [[1992]]. Ym [[1999]] fe ddaeth Dafydd Elis Thomas yn AC, ac ers hynny mae wedi bod yn Llywydd y [[Cynulliad]]. Mae rhan helaeth o’r etholaeth o fewn awdurdod lleol [[Gwynedd]], a bleidleisiodd o blaid datganoli. Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei reoli gan Blaid Cymru. Ond mae rhan ogleddol yr etholaeth, sef Nant Conwy, yn perthyn i awdurdod lleol Conwy a bleidleisiodd Na yn y refferendwm.
 
===Gweler Hefyd===