Jeriwsalem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: lez:Иерусалим
B Jerwsalem
Llinell 1:
[[Delwedd:Jerusalem Dome of the rock BW 13.JPG|300px|bawd|Y Mur Gorllewinol a'r Gromen ar y Graig ([[Mosg Al-Aqsa]]) yn Jeriwsalem]]
Prifddinas ''de facto'' gwladwriaeth [[Israel]] yw '''Jeriwsalem''' neu '''Jerwsalem'''<ref>Jones, Gareth (gol.). ''Yr Atlas Cymraeg Newydd'' (Collins-Longman, 1999), t. 94.</ref> (hefyd '''Caersalem''' yn Gymraeg; '''Jerusalem''' yn Saesneg; '''Yerushaláyim''', '''ירושלים'''yn [[Hebraeg]] Diweddar, '''ירושלם''' yn Hebraeg clasurol; '''al-Quds''', '''القدس''', yn [[Arabeg]]). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes [[Iddewiaeth]], [[Cristnogaeth]] ac [[Islam]]. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Jeriwsalem yn brifddinas Israel, yn ôl y [[Cenhedloedd Unedig]] mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod).
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 22:
== Tiriogaeth ddadleuol ==
Mae anghytundeb am statws y ddinas. Mae hi ar y llinell cadoediad rhwng [[Israel]] a'r [[Glan Orllewinol|Lan Orllewinol]] y cytunwyd arni yn [[Cytundeb Cadoediad 1949]], ond mae Israel yn rheoli'r holl ddinas ac yn ôl cyfraith Israel hi yw prifddinas y wlad. Felly mae llywodraeth Israel a llawer o sefydliadau Iddewig eraill yno. Mae Penderfyniad 242 y CU yn galw ar i Israel "dynnu allan o'r diriogaeth a feddianwyd," Penderfyniad 237 yn gwrthod yr ychanegiad o'r ddinas i Israel a Phenderfyniad 405 yn cadarnhau fod Jeriwsalem yn diriogaeth Balesteinaidd a feddianwyd. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (lleolir llysgenhadaeth UDA yn [[Tel Aviv]], er enghraifft).
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Cysylltiadau allanol ==