Brwydr Salamis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Image:Battle of Thermopylae and movements to Salamis, 480 BC.gif|right|thumb|250Px|Symudiadau i Salamis]]
 
Roedd '''Brwydr Salamis''' ([[Groeg]]: 'Ναυμαχία {{UnicodeHen Roeg|τῆς Σαλαμῖνος}}' ,'' Naumachia tes Salaminos '') yn frwydr rhwng llynges nifer o [[dinas-wladwriaeth|ddinas wladwriaethau]] [[Groeg yr Henfyd|Groeg]] a llynges yr [[Persia|Ymerodraeth Bersaidd]] yn mis Medi, [[480 CC.]]. Ymladdwyd y frwydr yn y culfor rhwng [[Ynys Salamis]] a [[Piraeus]], gerllaw [[Athen]].
 
Yn 480 CC. ymosododd [[Xerxes I. brenin Persia]] ar y Groegiaid gyda byddin a llynges enfawr, gyda’r bwriad o wneud Groeg yn rhan o’r Ymerodraeth Bersaidd. Croesodd ei fyddin yr [[Hellespont]] ar bont wedi ei gwneud o longau, a meddiannodd ei fyddin ogledd Groeg, cyn anelu tua’r de, gyda’r llynges yn cadw cysylltiad a’r fyddin. Ymladdwyd [[Brwydr Artemisium]] rhwng y ddwy lynges heb ganlyniad clir, a’r un pryd ymladdwyd [[Brwydr Thermopylae]] ar y tir. Pan glywodd y llynges fod amddiffynwyr Thermopylae i gyd wedi eu ladd, symudodd y llynges tua’r de.